Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 26 Mehefin 2017

Amser: 14.00 - 16.49
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4113


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Neil Hamilton AC

Neil McEvoy AC

Rhianon Passmore AC

Lee Waters AC

Mike Hedges AC (yn lle Vikki Howells AC)

Tystion:

James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru

Tracey Mayes, Llywodraeth Cymru

Swyddfa Archwilio Cymru:

Alistair McQuaid

Mike Usher

Staff y Pwyllgor:

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

 

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

 

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

 

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

1.2 Yn dilyn newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor ar 21 Mehefin, croesawodd y Cadeirydd Vikki Howells i'r Pwyllgor a diolchodd i Mike Hedges am ei waith. Fodd bynnag, roedd Mike Hedges yn dirprwyo ar ran Vikki Howells heddiw. 

 

 

</AI2>

<AI3>

2       Papur(au) i'w nodi

 

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w hysbysu am y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor, gan ei bod yn bosibl y bydd y Pwyllgor plant yn dymuno gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn ystod y sesiynau a drefnwyd i graffu ar waith y Gweinidog.

2.3 Gofynnodd Mike Hedges AC i'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach ynghylch y sefyllfa o ran gweithgynhyrchu uwch mewn perthynas â chwmni Kancoat.

 

</AI3>

<AI4>

2.1   Consortia Addysg Rhanbarthol: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (16 Mehefin 2017)

</AI4>

<AI5>

2.2   Llywodraeth Cymru yn ariannu Kancoat Ltd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (21 Mehefin 2017)

</AI5>

<AI6>

3       Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru: Sesiwn dystiolaeth

 

3.1 Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad agoriadol ynghylch yr ohebiaeth ddiweddar rhwng Llywodraeth Cymru ac ef ei hun.

3.2 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyda James Price, dirprwy ysgrifennydd parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru; a Tracey Mayes, pennaeth llywodraethu a chydymffurfio Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru, ar y cyllid cychwynnol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i brosiect Cylchffordd Cymru.

3.3 Cytunodd James Price i gymryd y camau a ganlyn:

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor gyda manylion ynghylch cyfanswm y gwariant a gafwyd hyd yn hyn a'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu; 

·         Anfon y canllawiau mewnol y mae swyddogion yn glynu wrthynt pan fyddant yn asesu ceisiadau grant;

·         Darparu manylion pellach am y broses diwydrwydd dyladwy a ddilynwyd, yn dilyn penderfyniad y Cabinet ynghylch ariannu prosiect Cylchffordd Cymru; ac

·         Ymchwilio i bwy yn Llywodraeth Cymru wnaeth y sylw am 'grandstanding' a gafodd ei gynnwys mewn datganiad i'r wasg, a darparu'r wybodaeth berthnasol i'r Cadeirydd.

 

</AI6>

<AI7>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

 

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI7>

<AI8>

5       Cyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

 

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, a gwnaethant gytuno y byddai adroddiad yn cael ei baratoi i'r Aelodau ei ystyried.

 

</AI8>

<AI9>

6       Cyfoeth Naturiol Cymru

 

6.1 Nododd yr Aelodau y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a gwnaethant gytuno ar y llythyr drafft a gaiff ei anfon at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

 

</AI9>

<AI10>

7       Ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai: Trafod yr adroddiad drafft

 

7.1 Yn sgil cyfyngiadau amser, ni chafodd yr eitem hon ei thrafod. Fodd bynnag, gofynnwyd i'r Aelodau anfon unrhyw sylwadau yn deillio o'u hystyriaeth gychwynnol o adroddiad y Pwyllgor i'r Clercod, a fydd yn aildrefnu'r eitem ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>